Annwyl bawb
Cynhaliwyd ail gyfarfod ffurfiol y Bwrdd Taliadau ar 28 Ionawr. Dyma grynodeb o'r materion a drafodwyd gan y Bwrdd, a'r penderfyniadau a wnaed ganddo.
Gwariant ar Lety Preswyl
Adolygodd y Bwrdd yr uchafswm y gellir ei hawlio ar o ran Gwariant ar Lety Preswyl yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17. Yn ogystal, trafododd y Bwrdd is-elfennau'r gwariant hwn, fel lwfansau i Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae rhagor o wybodaeth am Wariant ar Lety Preswyl ar gael ym Mhennod 4 o'r Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Yn amodol ar ymgynghoriad, penderfynodd y Bwrdd y dylid cadw'r uchafswm y gall Aelodau yn yr ardal allanol ei hawlio o ran y lwfans llety preswyl, sef £735 y mis ar gyfer taliadau rhent.
Cytunodd y Bwrdd i gadw cyfradd yr is-lwfans ar gyfer Gwariant ar Lety Preswyl sy'n gysylltiedig â gwaith atgyweirio hanfodol ar eiddo sydd â morgais, sef 10% o'r lwfans ardal allanol blynyddol.
Yn ogystal, cadarnhaodd y Bwrdd y swm y gellir ei hawlio ar gyfer y lwfans cyfrifoldebau gofalu (yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes) o hyd at £1,440 y flwyddyn, a hynny ar gyfer talu'r costau uwch sydd ynghlwm â llety priodol.
Dylech anfon unrhyw sylwadau ar y cynigion hyn atom erbyn 14 Mawrth 2016. Bydd y penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud yn ein cyfarfod nesaf, ar 24 Mawrth.
Asiantaethau rhentu
Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer dod o hyd i lety preswyl priodol ar gyfer Aelodau. Ar ôl yr etholiad yn 2011, bu gofyn i Aelodau fodloni cytundeb fframwaith a oedd yn cynnwys nifer cyfyngedig o asiantau wrth geisio dod o hyd i eiddo. Roedd yna deimlad bod y drefn hon yn rhy gyfyngus. Ein nod yw rhoi mwy o hyblygrwydd i Aelodau â darparu rhestr o gyflenwyr cymeradwy, a hynny er mwyn creu perthynas ag Aelodau, galluogi'r asiantaethau i gasglu gwybodaeth am ofynion yr Aelodau a sicrhau safonau penodol o ran yr eiddo. Fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, byddai proses o gymeradwyo a rheolaethau ynghlwm â phenderfynu a yw asiantaethau yn ariannol hyfyw ac i sicrhau nad ydynt yn gysylltiedig â'r Aelod o dan sylw mewn unrhyw ffordd.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw sylwadau ar y dull hwn o weithredu erbyn 14 Mawrth 2016.
Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
Adolygodd y Bwrdd gyfanswm yr arian a fydd ar gael ar gyfer y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol a fydd ar gael ym mlwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad. Awgrymodd y Bwrdd blaenorol y dylai'r swm a bennwyd ganddo (£900,000) gynyddu yn unol â'r dyfarniad cyflog a wnaed i staff cymorth ar gyfer 2016-17.
Mae manylion y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol newydd i'w gweld ym Mhennod 8 y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol (£900,000) o 1.1%, yn unol â'r cynnydd arfaethedig a nodir yn y dyfarniad cyflog i staff cymorth yr Aelodau.
Dylech anfon unrhyw sylwadau ar y cynnydd arfaethedig hwn atom erbyn 14 Mawrth 2016. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn ein cyfarfod nesaf, ar 24 Mawrth.
Trefniadau ariannu ar gyfer cyflogau staff y grwpiau plaid a fydd yn ddi-waith yn dilyn yr etholiad.
Bydd cyflogau staff Aelodau unigol a fydd yn ddi-waith yn dilyn yr etholiad yn cael eu talu tan ddiwrnod olaf eu cyflogaeth drwy lwfans Dirwyn i Ben yr Aelodau. Fodd bynnag, nid oes lwfans tebyg ar gael i'r grwpiau plaid. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y byddai defnyddio cyllidebau'r pleidiau i dalu'r costau hyn yn creu problemau.
Felly, mae'r Bwrdd wedi cytuno y dylid talu cyflogau staff y grwpiau plaid a fydd yn ddi-waith yn dilyn yr etholiad o'r gronfa ganolog neu o'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.
Materion eraill
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau sy'n cael eu gwneud parthed cynllun pensiwn newydd yr Aelodau a chynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau. Mae Adran Actiwari Llywodraeth y Deyrnas Unedig (GAD) wedi gwahodd y Bwrdd, yn ogystal â'r Ymddiriedolwyr, i ystyried opsiynau ar gyfer cyfraniad Comisiwn y Cynulliad i'r cynllun pensiwn newydd cyn i lefel y cyfraniad gael ei chadarnhau. Cytunodd yr Aelodau i ystyried yr opsiynau sydd ar gael ac i roi gwybod i GAD sut y mae'n dymuno gweld y Cynllun yn cael ei ariannu, a hynny erbyn 29 Chwefror 2016.
Adolygodd y Bwrdd y canllawiau drafft ar gyfer defnyddio'r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu o ran paratoi ar gyfer dechrau'r Cynulliad nesaf.
Nodyn atgoffa: Ymgynghoriadau sy'n mynd rhagddynt
Cyflogau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad:
Byddwch yn cofio o'r nodyn blaenorol ein bod yn bwriadu cynyddu cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2016-17 o 1.1%, yn unol â'r ffigurau dros dro ar gyfer 2015 mewn perthynas ag enillion canolrifol yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yng Nghymru.
Costau Swyddfa ar gyfer 2016-17:
Rydym yn cynnig cynyddu'r lwfans costau swyddfa o 1%, neu'n unol â'r newid yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2016, p'un bynnag yw'r mwyaf.
Bydd yr ymgynghoriad ar y ddau gynnig yn dod i ben ar Chwefror 12 2016. Byddwn yn gwneud ein penderfyniadau terfynol yn ein cyfarfod ar 24 Mawrth.
Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i gynnal deialog barhaus gydag Aelodau. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech drafod unrhyw beth.
Gan fod etholiad y Cynulliad a'r diddymiad cysylltiedig ar y gweill, ni fydd unrhyw gyfarfodydd pellach o grŵp cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad cyn diwedd y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, os yw Aelodau'n dymuno trafod unrhyw faterion yn y cyfamser, wrth gwrs, byddwn yn hapus i'w cyfarfod. Bydd cyfarfod olaf y Bwrdd cyn yr etholiad yn cael ei gynnal ar 24 Mawrth.
Cofion gorau,
Y Fonesig Dawn Primarolo
Cadeirydd/Chair
Y Bwrdd Taliadau/Remuneration Board